OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1189 (Cy. 146)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Ceredigion) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Ceredigion yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio, ac yn ardal gorfodi arbennig, at ddibenion Atodlenni 8 a 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Ceredigion i orfodi'r gyfraith am dramgwyddau parcio yn Sir Ceredigion drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun cyfraith trosedd.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1189 (Cy. 146)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Ceredigion) 2012
Gwnaed 29 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mai 2012
Yn dod i rym 4 Mehefin 2012
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 74, 84 a 89 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004([1]), a pharagraffau 8(1) o Atodlen 8 a 3(1) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno. Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru([2]).
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Ceredigion) 2012 a daw i rym ar 4 Mehefin 2012.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig
2.—(1) Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
(2) Yr ardal a ddynodir yw Sir Ceredigion.
(3) Yn yr erthygl hon—
mae i “ardal gorfodi arbennig” yr ystyr a roddir i “special enforcement area” gan baragraff 3 o Atodlen 10 i Ddeddf 2004,
mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” gan baragraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004,
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004, ac
mae i “tramgwydd parcio” yr ystyr a roddir i “parking contravention” gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2012